Hannah Blythyn
Mae Stonewall Cymru wedi croesawu’r ffaith bod Aelodau Cynulliad agored lesbiaidd a hoyw wedi’u hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a hynny am y tro cyntaf yn ei hanes.

Er bod yr elusen cydraddoldeb yn cydnabod bod prinder trawiadol wedi bod yn y gorffennol o Aelodau Cynulliad a oedd wedi datgan yn gyhoeddus eu bod yn lesbiaidd, yn hoyw, yn ddeurywiol neu’n draws, mae hynny wedi newid eleni gydag Aelod Plaid Cymru Adam Price a’r Aelodau Llafur Hannah Blythyn a Jeremy Miles yn cael eu hethol.

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru, ei bod hi’n “garreg filltir i ddemocratiaeth yng Nghymru”.

O’i gymharu, mae nifer o wleidyddion agored lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn Senedd yr Alban, gan gynnwys arweinwyr Llafur yr Alban, Ceidwadwyr yr Alban ac un o gyd-gynullwyr Plaid Werdd yr Alban.

Aelodau hoyw’r Cynulliad

Bu Aelod Cynulliad newydd Delyn, Hannah Blythyn, yn rhan o waith Stonewall Cymru o gefnogi Modelau Rôl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws, ac mae wedi sôn am ei dymuniad i fod ‘yn rhan o’r gwaith o greu Cymru fodern, Cymru sy’n cynrychioli pawb’.

Mae Aelod Cynulliad newydd arall, Jeremy Miles, yn aelod o grŵp Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thraws Llafur, a drefnodd ddyddiau ymgyrchu er mwyn helpu i sicrhau ei fod yn cael ei ethol i’r Cynulliad.

Mae’r cyn-Aelod Seneddol a’r academydd Adam Price wedi siarad yn y gorffennol am y modd y bu ei brofiadau yn Streic y Glowyr o gymorth iddo ddod i delerau â’i gyfeiriadedd rhywiol.

‘Carreg filltir’

Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru: “Mae ethol Aelodau Cynulliad sy’n agored lesbiaidd a hoyw yn garreg filltir i ddemocratiaeth yng Nghymru. Wrth dyfu lan yn hoyw mewn teulu dosbarth gweithiol yng Nghymru roedd gen i lawer o fodelau rôl.  Yn anffodus, doedd dim un ohonyn nhw’n hoyw, neu o leiaf os oedden nhw, wnaeth neb erioed sôn am y peth. Bydd yn llesol i’n Cynulliad Cenedlaethol gael Aelodau Cynulliad sy’n gyfforddus yn bod yn nhw eu hunain wrth weithio dros eu hetholwyr.

“Mae modelau rôl yn bwysig ymhob rhan o fywyd. P’un a ydyn ni’n sôn am chwaraeon neu wleidyddiaeth, maen nhw’n rhoi neges glir i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws bod lle iddyn nhw gyfrannu at ein bywyd cenedlaethol. Mae’n anodd anelu i efelychu rhywbeth nad ydych chi’n ei weld.

“Rydyn ni’n gwybod bod llawer mwy i’w wneud cyn y bydd ein bywyd cyhoeddus wir yn cynrychioli holl gymunedau Cymru, ac mae angen i bleidiau nawr wneud rhagor i gefnogi pobl ddeurywiol a thraws i sefyll etholiadau mewn seddi y gallan nhw eu hennill ar gyfer y Senedd, San Steffan a Llywodraeth Leol.”