Llafur sy’n parhau i fod y blaid fwyaf poblogaidd yng Nghymru, ar ôl ennill 29 o seddi, ond mae’n ddwy sedd yn brin o ffurfio llywodraeth gyda mwyafrif clir.

Roedd hi’n noson dda iawn i Ukip, plaid a fydd am y tro cyntaf yn camu i mewn i’r siambr, ar ôl iddi lwyddo i ennill saith sedd ranbarthol.

Mae cefnogwyr Plaid Cymru hefyd yn dathlu ar ôl i arweinydd y blaid, Leanne Wood, lwyddo i gipio sedd Y Rhondda oddi ar un o hoelion wyth Llafur, Leighton Andrews.

Ar y cyfan, cafodd Blaid Cymru 12 o seddi, un yn fwy nag etholiadau 2011, ar ôl iddi fethu â chipio seddi targed fel Llanelli ac Aberconwy.

Trychineb y Lib Dems

Roedd hi’n noson siomedig i’r Ceidwadwyr Cymreig, a gollodd pum sedd ranbarthol, gan ei rhoi yn y trydydd safle.

Noson drychinebus arall oedd hi i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, sydd ag ond un cynrychiolydd yn y Cynulliad bellach, ei harweinydd, Kirsty Williams sy’n cynrychioli Brycheiniog a Sir Faesyfed.

Ymhlith collwyr mawr y noson oedd wrth gwrs, Leighton Andrews yn y Rhondda a ddisgrifiodd ei noson fel “siom fawr”.

Bydd y Cynulliad hefyd yn gorfod gwneud heb Aled Roberts cyn-AC y Democratiaid Rhyddfrydol dros Ogledd Cymru, sy’n “golled fawr” yn ôl sawl un o sawl plaid ar y cyfryngau cymdeithasol.

Wynebau newydd

Rhai o wynebau newydd yn y siambr fydd cynrychiolwyr Ukip, y cyn-Dorïaid yn Lloegr, Neil Hamilton a Mark Reckless. Yr aelodau eraill yw Michelle Brown, Gareth Bennett, David Rowlands, Caroline Jones ac arweinydd y blaid yng Nghymru, Nathan Gill.

Cafodd Jeremy Miles AC, ei ethol dros Lafur yng Nghastell-nedd hefyd, ar ôl i Gwenda Thomas gyhoeddi na fydd yn ail-sefyll, a Lee Waters sydd yn cynrychioli Llanelli.

Mae ‘mab darogan’ Plaid Cymru, Adam Price, wedi cyrraedd y Cynulliad, gan ddod yn lle Rhodri Glyn Thomas yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Dyma restr o’r canlyniadau cyffredinol

Etholaeth

Llafur – 27 (-1)

Plaid Cymru – 6 (+1)

Ceidwadwyr – 6 (dim newid)

Dem Rhydd – 1 (dim newid)

Rhanbarth

Llafur – 2 (dim newid)

Plaid Cymru – 6 (dim newid)

Ceidwadwyr – 5 (-3)

Ukip  – 7 (+7)

Dem Rhydd – 0 (-4)

Ar y cyfan

Llafur – 29

Plaid Cymru – 12

Ceid – 11

UKIP – 7

Dem Rhydd – 1