Kirsty Williams (o wefan y Democratiaid Rhyddfrydol)
Fe fydd unig Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol yn wynebu penderfyniad mawr pan fydd y Cynulliad yn ailagor.

Mae’r Blaid Lafur yn sôn am y posibilrwydd  o gynnyg swydd Llywydd y Cynulliad i Kirsty Williams, gan ei gwneud yn haws hefyd i Lafur lywodraethu heb glymblaid.

Gyda chanlyniadau un sedd etholaeth ar ôl a dwy ranbarth, mae’n ymddangos y bydd Llafur yn cael 28 neu 29 sedd, digon i ystyried llywodraethu ar eu pen eu hunain.

Fe gafodd y syniad ei godi gan gyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, wrth drafod canlyniadau etholiad y Cynulliad ar Radio Wales.

Y cefndir

Fe lwyddodd Kirsty Williams i gael cynnydd anferth yn ei mwyafrif ei hun ym Mrycheiniog a Maesyfed cyn gweld gweddill ei phlaid yn cael ei sgubo o’r neilltu.

Yn rhanbarth Gogledd Cymru, fe gafodd lai hyd yn oed na’r grŵp Diddymu’r Cynulliad Cenedlaethol.

Pe bai hi’n derbyn swydd y Llywydd, fyddai hi ddim yn pleidleisio yn y Cynulliad – yr AC Llafur Rosemary Butler oedd Llywydd y Cynulliad diwetha’.