Catwyn Jones ddoe (Joe Giddens/PA)
Mae Llafur wedi perfformio’n well na’r disgwyl, meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wrth ennill sedd Pen-y-bont ar Ogwr yn etholiadau’r Cynulliad.

Yr adeg honno, am chwech y bore, roedden nhw ar eu ffordd i ffurfio llywodraeth eto – efallai gyda llywodraeth leiafrif ar eu pen eu hunain.

Dim ond un sedd oedd wedi newid dwylo erbyn hynny – sioc fwya’r noson wrth i arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, guro’r gweinidog Llafur, Leighton Andrews yn y Rhondda.

Roedd honno’n siom fawr, meddai Carwyn Jones, ond fel arall, meddai, roedd Llafur wedi llwyddo i wrthsefyll her gan y pleidiau eraill.

Stori’r noson

A dyna stori’r noson – er fod rhai o seddi agos Caerdydd a’r cyffiniau heb ddod. Fe fethodd y Ceidwadwyr â thorri trwodd yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac fe helpodd UKIP i rannu pleidlais y gwrthbleidiau fwy nag erioed.

Yn unol â’r polau piniwn, roedd Llafur erbyn hynny wedi colli tua 8% o’u pleidlais y tro diwetha’ – i aw ri 35% – ond yn parhau i fod y blaid fwya’ o ddigon, gyda sylwebwyr eisoes yn codi cwestiynau am y system bleidleisio.

Dyma rai o’r uchafbwyntiau …

  • Leanne Wood yn cipio’r Rhondda gyda mwyafrif o 3459, gan guro’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews.
  • Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, yn cael buddugoliaeth bersonol anferth ym Mrycheiniog a Maesyfed gan gynyddu ei mwyafrif yn sylweddol.
  • Llafur yn dal ei gafael ar Lanelli, gyda Lee Waters yn curo her Helen Mary Jones a Phlaid Cymru o 382 wedi ail gyfri’. Yno, unwaith eto, roedd pleidlais Sian Caiach, y gyn bleidwraig, yn allweddol.
  • Plaid Cymru’n dod yn agos iawn ym Mlaenau Gwent a Chaerffili ac yn cadw Ceredigion yn erbyn her gref gan y Democratiaid Rhyddfrydol.
  • Llafur yn dal ei gafael ar nifer o seddi lle’r oedd disgwyl iddyn nhw ddod dan bwysau mawr yn y Gogledd-ddwyrain – ac ar Ganol a Gogledd Caerdydd hefyd.