Rhai o'r arweinwyr yn pleidleisio heddiw. O'r top ar y chwith, Alice Hooker-Stroud o'r Blaid Werdd, Andrew RT Davies o'r Ceidwadwyr Cymreig, Carwyn Jones o'r Blaid Lafur a Leanne Wood o Blaid Cymru
Gydag oriau’n unig cyn i’r cyfnod pleidleisio gau yn etholiad y Cynulliad, mae golwg360 wedi cael clywed beth yw negeseuon munud olaf rhai o arweinwyr y pleidiau yng Nghymru i bobol y wlad.

Ar ôl wythnosau o ymgyrchu, does dim llawer gall y pleidiau wneud erbyn hyn, heblaw am alw ar bobol Cymru i fynd allan a defnyddio eu pleidlais.

Bu arweinydd Llafur, Carwyn Jones, yn pleidleisio yn ei etholaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr y bore ‘ma, gan ddweud ei fod yn credu bod ganddo e a’i blaid “mwy i wneud” yng Nghymru.

“Rwy’n falch o’r hyn rydym wedi’i wneud gyda’n gilydd, ond dwi’n gwybod bod mwy i wneud. Gyda’n gilydd dros Gymru, gallwn gyflawni,” meddai wrth erfyn ar bobol i bleidleisio dros ei blaid e.

Plaid Cymru – ‘Defnyddiwch eich pleidlais’

“Rwy’n apelio ar bawb sydd eisiau newid i fynd allan a rhoi eu tair pleidlais dros Blaid Cymru. Os ewch chi allan a defnyddio eich pleidlais heddiw, allwn ni wneud hyn,” oedd neges Leanne Wood i etholwyr Cymru heddiw.

Y Ceidwadwyr Cymreig – gobeithio am ‘Gymru las’

Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ei fod yn “gobeithio bydd Cymru’n troi’n las heno”.

“Mae’n mynd i fod yn waith caled, ond rydym ni’n gallu gwneud hynny,” meddai.

“Rydym am sicrhau newid go iawn er mwyn ein bod yn gallu gwneud y gwelliannau y mae gwir angen ar Gymru.”


Kirsty Williams
Democratiaid Rhyddfrydol
 – ‘Cymru sy’n gweithio i chi’

Neges y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, sydd mewn peryg o golli y rhan fwyaf o’i seddi yn yr etholiadau oedd “pleidleisiwch amdanom ni i gael Cymru sy’n gweithio i chi”.

“Os ydych yn cefnogi dosbarthiadau ysgol llai, mwy o nyrsys ar wardiau, os ydych am gael economi sy’n rhoi cyfle i bobol mewn bywyd, yna’n mae’n rhaid i chi bleidleisio amdano – mae’n rhaid i chi bleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig,” meddai ei harweinydd, Kirsty Williams.

Y Gwyrddion am ‘siglo’r Senedd’

Wrth iddi fwrw ei phleidlais ei hun ger ei chartref ym Machynlleth, dywedodd Alice Hooker-Stroud, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, ein bod ni’n “lwcus” yng Nghymru i gael system bleidleisio “flaengar”.

“Gyda’r bleidlais ranbarthol, gallwn bleidleisio am yr hyn rydym wir yn credu ynddo. Pleidleisiwch gwyrdd heddiw a helpwch y Blaid Werdd yng Nghymru i siglo’r Senedd,” meddai.


Nathan Gill arweinydd UKIP yng Nghymru
UKIP ‘yn y Cynulliad’

Wrth i’r arolygon barn argoeli canlyniadau da iawn i UKIP yn yr etholiadau, dyma oedd y neges gan lefarydd wrth golwg360 heddiw, “Os bydd pobol yn pleidleisio dros UKIP, maen nhw’n mynd i gael UKIP yn y Cynulliad”.

Digon syml felly.

Cewch holl gyffro’r etholiadau heno ar Flog Byw Golwg360 o 7.30yh.