Llun: S4C
Mae S4C wedi cyhoeddi y byddan nhw’n gweithio gyda chlybiau ieuenctid i herio’r 30,000 o aelodau yng Nghymru i greu ffilm fer ar gyfer ei dangos ar wefan y sianel.

Bydd y gystadleuaeth yn gyfle i aelodau ifanc y clybiau Boys and Girls Clubs of Wales i ddysgu sgiliau ffilmio, golygu a chynhyrchu yn defnyddio offer fel ffonau symudol i greu’r ffilm.

Bydd y gorau yn cael ei dewis ar gyfer dangos ar wefan S4C gyda gwobr o £500 ar gael i’r buddugwyr ar gyfer eu clwb.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i holl aelodau’r Boys and Girls Clubs of Wales – dros 30,000 o bobl ifanc Cymru.

Y cyfan sydd ei angen yw syniad gwreiddiol i greu ffilm ar y thema “Cymraeg, Ifanc a…”.

‘Gwreiddiol a mentrus’ 

Meddai Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C, Gwyn Williams, fod y sianel  yn chwilio am syniadau gwreiddiol, mentrus a bywiog.

Meddai Gwyn Williams: “Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at weld y ffilmiau, ac i weld sut y bydd y bobl ifanc yn dewis gorffen y frawddeg.

“Wrth fynd ati i greu ei ffilm, dwi’n eu hannog nhw i fod yn wreiddiol, yn uchelgeisiol, ac yn fentrus! Mi fyddwn ni’n falch iawn o gael dangos rhai o’i gwaith ar wefan S4C a chyflwyno’r wobr o £500 i’r buddugwr. Pob lwc.”

Mae dau gategori; oedran 8-15 a 16-25. Mae angen i bob ffilm fod o leia’ 1.5 munud o hyd a dim mwy na 3 munud ac mae’n rhaid cynnwys yr iaith Gymraeg.