Chloe Smith
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth i geisio dod o hyd i ferch 15 oed, sydd wedi bod ar goll ers dydd Mercher.

Mae Chloe Smith yn byw yn Abertridwr, ger Caerffili ac mae ganddi gysylltiadau gydag ardal Casnewydd.

Mae’n ferch groenwyn, o faint main, sy’n 5 troedfedd 1 modfedd o daldra, a chanddi wallt hir tywyll.

Cafodd ei gweld diwethaf yn gwisgo jîns glas golau, siaced werdd ac o bosib, esgidiau rhedeg pinc.

Mae gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am ei lleoliad, ffonio’r heddlu ar 101, gan ddyfynnu 449 04/05/16.