Fe fydd yr etholiadau ddydd Iau yng Nghymru a gweddill Prydain yn cael eu gweld yn rhannol fel prawf o arweinyddiaeth Jeremy Corbyn
Ar drothwy etholiadau’r Cynulliad mae arweinydd y Blaid Lafur wedi dweud ei bod hi’n rhy agos mewn rhannau o Gymru i bobol daro pleidlais brotest.

Yn ôl Jeremy Corbyn, bydd canlyniadau’r etholiadau’n agos ac fe ddylai etholwyr bleidleisio dros ei blaid ef yn hytrach na Phlaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol neu’r Gwyrddion, er mwyn cadw’r Ceidwadwyr allan.

“Yn syml iawn, does yna’r fath beth â phleidlais brotest yn yr etholiad hwn; bydd gormod o seddi’n rhy agos i’w darogan,” meddai ar ymweliad â Chymru heddiw.

Dywedodd ei fod yn disgwyl i ganlyniadau fod yn agos yn Nyffryn Clwyd a Gŵyr, gan adlewyrchu patrwm yr etholiad cyffredinol y llynedd.

Bryd hynny, 237 o bleidleisiau oedd ynddi yn Nyffryn Clwyd, a 27 o bleidleisiau yn unig yng Ngŵyr.

‘Uno etholwyr y chwith’

“Mae ein holl arolygon a chanfasio’n awgrymu y bydd y seddi hyn yn agos iawn unwaith eto, ac yn dibynnu ar lond dwrn o bleidleisiau,” cyfaddefodd Corbyn.

“Mi all ac mi fydd pethau’n newid. Felly mae’r dewis ar gyfer y pleidleisiwr blaengar yn amlwg – i sicrhau nad oes aelodau UKIP na Thorïaid o gwmpas bwrdd y cabinet yng Nghymru, mae angen i chi roi eich cefnogaeth i’r ymgeisydd Llafur lleol.”

Manteisiodd Corbyn ar y cyfle i ladd ar gytundeb posib rhwng y Ceidwadwyr a UKIP er mwyn ffurfio llywodraeth, gan ddweud bod “llawer yn y fantol yn yr etholiad hwn”.

Wrth bwysleisio blaenoriaethau ei blaid ar gyfer yr etholiad, fe dynnodd sylw at y Gwasanaeth Iechyd, yr amgylchedd, cyflogau a phobol ifanc.

Dywedodd y byddai cynlluniau Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yn “tanseilio popeth y mae ein meddygon a’n nyrsys sy’n gweithio’n galed yn ei wneud yn y rheng flaen”.