Honnodd Miqdad Al-Nuaimi nad oedd yn ymwybodol o'r gwaharddiad (llun: Twitter)
Cynghorydd o Gasnewydd yw’r diweddaraf i gael ei wahardd gan y Blaid Lafur am sylwadau ‘gwrth-Semitaidd’, wrth i helyntion diweddar y blaid barhau.

Cafodd Miqdad Al-Nuaimi ei wahardd yn syth wrth i ymchwiliad gael ei gynnal, meddai llefarydd.

Ond mae’r cynghorydd ei hun, sy’n cynrychioli ardal Stow Hill yn y ddinas, wedi dweud wrth golwg360 nad oedd wedi clywed dim gan y blaid am ei waharddiad a doedd ddim am wneud sylwadau pellach.

Dywedodd y Blaid Lafur yng Nghymru fod Miqdad Al-Nuaimi, mewn gwirionedd, yn gwybod.

Negeseuon Twitter

Does dim manylion swyddogol am natur yr honiadau eto, ond yn ôl gwefan Guido Fawkes fe wnaeth y cynghorydd anfon negeseuon Twitter yn cymharu Israel i’r Natsïaid a gwneud cysylltiadau rhwng Israel a’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Yn ôl y wefan, roedd un neges yn dweud bod gan Iddewon “yr un meddylfryd trahaus â’r Natsïaid”.

Mae cynghorydd Llafur arall – Terry Kelly o Gyngor Swydd Renfrew, ger Glasgow – hefyd wedi cael ei wahardd am sylwadau y gwnaeth yntau.

Galw ar Carwyn Jones i “gymryd camau pendant”

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r sylwadau gan alw ar Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, i ddiswyddo Miqdad Al-Nuaimi.

“Dyma dystiolaeth bellach bod problem ddifrifol wrth wraidd y Blaid Lafur dros wrth-semitiaeth,” meddai llefarydd.

“Mae angen i Carwyn Jones anfon neges gref y bydd ei blaid yn gweithredu i fynd i’r afael â chywilydd ei blaid.

“Dylai sylwadau fel y rhai sydd yn y newyddion heddiw olygu diarddeliad, nid gwaharddiad, ac mae gan Brif Weinidog Cymru gyfle i ddangos, yn wahanol i Jeremy Corbyn, ei fod yn fodlon gweithredu a diswyddo Mr Al-Nuaimi.”