Roedd Cyngor Gwynedd wedi dweud nad oedden nhw am fasnachu ag Israel oherwydd ei hymosodiadau ar y Palesteiniaid
Mae adolygiad barnwrol wedi dechrau yn erbyn dau awdurdod lleol yng Nghymru yn dilyn honiadau bod eu polisïau ar wahardd nwyddau o Israel yn “wrth-semitaidd”.

Y grŵp Jewish Human Rights Watch sydd wedi dwyn yr achos yn erbyn Cyngor Gwynedd a Chyngor Abertawe o flaen y Llys Brenhinol dros Gyfiawnder.

Mae’r cynghorau wedi gwadu’r honiadau yn eu herbyn, ond mae’r sefydliad sy’n amddiffyn hawliau pobol Iddewig wedi dweud bod eu polisïau yn dangos “dirmyg” i’r gymuned Iddewig.

Y cefndir

Yn 2010, fe wnaeth cyngor Abertawe basio cynnig i beidio â gwneud busnes ag “unrhyw gwmni sy’n torri cyfraith ryngwladol neu amodau neu alwadau’r Cenhedloedd Unedig, cyhyd na fyddai gwneud hynny’n torri unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol”.

Daeth hyn yn dilyn y gwaith a wnaed gan y cyngor i fod yn rhan o gytundebau â chwmni Veolia, sy’n rhan o gonsortiwm i adeiladu system rheilffordd yn cysylltu gwladfeydd Israel yn Jerwsalem.

Roedd sawl cynghorydd ar y pryd yn credu y byddai gwneud gwaith â Veolia yn “torri cyfraith ryngwladol”.

Yn 2014, fe wnaeth Gyngor Gwynedd basio cynnig oedd yn galw am wahardd masnachu ag Israel, gan gondemnio’r “ymosodiadau gan Israel ar Balesteiniaid sy’n byw ar y Llain Gaza”.

Roedd hefyd yn nodi bod y cynnig yn condemnio “Israel ac nid y grefydd Iddewig”.

Ymateb y cynghorau

Mae Cyngor Abertawe wedi ymateb i ddweud nad yw’r cyngor “erioed wedi boicotio nwyddau o Israel ac nad oes bwriad i wneud”.

“Ar 10 Mawrth 2016, fe wnaeth y cyngor llawn benderfynu peidio â diddymu’r hysbysiad ar gynnig a gafodd ei basio ar 17 Mehefin 2010,” meddai llefarydd.

“Am resymau cyfreithiol, byddai’n anaddas gwneud sylw pellach.”

Dywedodd Cyngor Gwynedd na fyddai’n gwneud sylw gan y byddai hynny’n “anaddas”, o achos “gweithrediadau cyfreithiol sy’n mynd ymlaen, y mae’r cyngor yn eu hamddiffyn”.

Mae disgwyl i’r achos yn yr Uchel Lys barhau am ddau ddiwrnod.