Michael Leaberry, Llun: Heddlu Gogledd Cymru
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn chwilio am ddyn 35 oed, a allai fod yn “beryglus” o gwmpas plant.

Mae’r heddlu wedi bod yn chwilio am Michael Philip Leaberry mewn cysylltiad  â throseddau rhyw yn erbyn plant yn Sir y Fflint.

Gadawodd Leaberry, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Stephen Bugman, Ogledd Cymru ym mis Ionawr 2015 a symudodd i Ipswich yn Suffolk ac yn ddiweddarach, i Essex.

Methodd gysylltu â’r heddlu tra roedd ar fechnïaeth ym mis Medi 2015, er y gred yw ei fod yn Ipswich ar 29 Medi.

Er gwaethaf ymholiadau helaeth yn ne ddwyrain Lloegr, nid yw wedi cael ei ganfod hyd yn hyn.

Apêl am wybodaeth

“Rwy’n apelio ar unrhyw un sy’n gwybod am leoliad Michael Philip Leaberry, neu a allai fod yn gwybod unrhyw beth a allai fod o help i’r heddlu ddod o hyd iddo, i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru,” meddai’r Prif Dditectif Arolygydd, Simon Williams.

“Rwy’n apelio hefyd ar Mr Leaberry’n uniongyrchol i ddod ymlaen. O achos natur y troseddau, mae’n cael ei ystyried yn rhywun a allai peri risg o achosi niwed i blant.”

Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae Michael Leaberry wedi byw yng Ngogledd Cymru, Essex, Norwich, Swydd Gaer a Suffolk.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod RC15126808.