Carwyn Jones
Mae’r Prif Weinidog wedi gwrthod unwaith eto i ddweud beth yn union fyddai polisi’r Blaid Lafur ar ffioedd myfyrwyr pe bai’n ennill yr etholiad fory.

Fe roddodd Carwyn Jones addewid na fyddai myfyrwyr prifysgol o Gymru’n gorfod talu £9,000 y flwyddyn nac yn talu cymaint â myfyrwyr Lloegr … ond heb roi ffigwr yn lle hynny.

Dan bwysau mewn cyfweliad ar Radio Wales, fe ddywedodd y byddai Llywodraeth Lafur yn cadw’r syniad o grant cynnal myfyrwyr a’r polisi cyffredinol.

Iechyd – codi’r pwysau ar ddoctoriaid

Fe ddywedodd Carwyn Jones hefyd mai un o’r prif newidiadau yn y Gwasanaeth Iechyd fyddai ceisio symud y pwysau oddi ar feddygon teulu ac adrannau brys ysbytai.

“Fe fyddai mynd at fferyllydd i ddechrau yn rhyddhau amser i ddoctoriaid,” meddai. “Fe fyddai mynd i uned mân anafiadau yn rhyddhau amser i adrannau damwain a brys.”

Ac, wrth ateb beirniadaeth am restrau aros, fe gyfaddefodd fod peth gwaith i’w wneud mewn rhai meysydd ond fod y sefyllfa mewn llawer cyfeiriad yn well nag yn Lloegr.

Cefndir – polisïau’r pleidiau ar ffioedd myfyrwyr

Mae Llafur yn aros am ganlyniadau arolwg i’r ffioedd cyn cyhoeddi manylion.

Mae Plaid Cymru eisiau cyfyngu’r grant cynnal ychwanegol yng Nghymru i bobol sy’n aros yn y wlad, neu’n dod yn ôl i weithio ar ôl eu cyfnod mewn prifysgol.

Bwriad y Ceidwadwyr fyddai newid y grant o dalu ffioedd i gyfrannu at gostau llety myfyrwyr a  Grant Cymorth i Fyw, nid grant ffioedd dysgu fyddai gan y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd.