Gwenfair Vaughan Llun: Cyfrif Twitter Gwenfair Vaughan
Mae cyfres deledu, lle mae Cymraes yn chwarae prif ran ynddi, wedi cipio gwobr Emmy dros y penwythnos yn America.

Dywedodd Gwenfair Vaughan, sy’n chwarae’r draenog Mrs Tiggywinkle yng nghartŵn Peter Rabbit, wrth golwg360 ei fod yn “fraint fawr” ennill a’i fod yn “agor y drws am gyfleoedd eraill”.

“Mae o’n fraint fawr cael bod yn rhan o gast unrhyw sioe sydd wedi cael cydnabyddiaeth a gwobr, mae’n gydnabyddiaeth o safon cynhyrchiad,” meddai.

Mae’r addasiad o lyfrau Beatrix Potter, sydd i’w gweld ar deledu yn yr Unol Daleithiau, Prydain ac Awstralia, wedi ennill y wobr  am y rhaglen animeiddiedig orau – ‘Outstanding Special Class Animated Programme’.

Dathliadau ‘distaw’

Dim ond y cynhyrchwyr aeth i’r gwobrau yn Los Angeles, ac am y gwahaniaeth amser o dair awr rhwng y fan honno ac Efrog Newydd, roedd ei dathliadau’n ddigon “distaw”, meddai Gwenfair Vaughan, sy’n wreiddiol o Fethesda ond sydd wedi byw yn Efrog Newydd ers 12 mlynedd.

“Ro’n i wedi mynd i glwydo erbyn i’r canlyniadau ddod allan, felly ges i’r newyddion am 7 o’r gloch y bore, oedd yn newyddion braf i ddeffro iddo!”

Mae pedwaredd gyfres y rhaglen ar sgriniau teledu erbyn hyn, ac mae’r actores yn gobeithio y bydd yr Emmy yn rhoi hwb am gyfres newydd.

“Dwi wedi mopio oherwydd ‘mod i wedi creu llais a chymeriad o’r newydd i’r hyn oedd pobol yn ei hadnabod hi o’r blaen (o’r llyfrau),” meddai wrth sôn am ei chymeriad, y draenog “doniol, di-flewyn ar dafod” o Swydd Gaerhirfryn.