Huw Francis, cyfarwyddwr newydd yr Ardd Llun: Gardd Fotaneg
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru am amserlen i sicrhau bydd ei chyfarwyddwr newydd yn gallu gweithio yn y Gymraeg.

Daeth y newyddion heddiw fod y sefydliad wedi penodi Cyfarwyddwr newydd, sydd ddim yn siarad Cymraeg yn rhugl ond sy’n dysgu’r iaith.

Bydd Huw Francis, sy’n wreiddiol o Abertawe, yn cymryd yr awenau gan Dr Rosie Plummer, a ymddiswyddodd ym mis Rhagfyr, yn sgil toriadau ariannol oedd yn wynebu’r Ardd yn Llanarthne.

Cafodd yr Ardd ei beirniadu am hysbyseb swydd  y Cyfarwyddwr newydd, oedd yn nodi bod y gallu i siarad Cymraeg yn “ddymunol” ac nid yn “hanfodol” ar gyfer y swydd, gyda chyflog rhwng £70,000 a £75,000.

Mae’r Ardd Fotaneg wedi cadarnhau wrth golwg360, y bydd disgwyl i Huw Francis ddysgu’r iaith yn rhugl “cyn gynted â phosib”, gan ychwanegu nad oes amserlen swyddogol iddo wneud hynny eto.

Y llynedd, bu ffrae rhwng Cymdeithas yr Iaith a’r Ardd Fotaneg ar ôl i arwyddion uniaith Saesneg gael eu gosod yno, a’r diffyg darpariaeth Cymraeg ar y wefan yn mynd yn groes i’w polisi iaith ac i gytundeb grant gyda Llywodraeth Cymru.

Galw am gyfarfod

Mae Huw Francis wedi gweithio yn Hong Kong, Twrci a Ffrainc, a dros y naw mlynedd diwethaf, bu’n Brif Weithredwr tirfeddianwyr cymunedol mwyaf Yr Alban, Stòras Uibhist, ar Ynysoedd Allanol Heledd.

 

“Rydym ar ddeall fod Huw Francis yn medru rhywfaint o Gymraeg,” meddai Manon Elin, cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith.

“Mae’n galonogol gweld ei fod wedi gweithio mewn menter â’r iaith Aeleg yn ganolog iddi yn Ynysoedd Heledd, felly gobeithio ei fod yn deall pwysigrwydd y Gymraeg fel iaith gymunedol ac iaith gwaith.

“Byddwn yn ysgrifennu ato i ofyn am gyfarfod yn fuan i drafod ei weledigaeth ar gyfer y Gymraeg yn yr Ardd.”

‘Gobeithiol y gall pethau newid’

“Fel pennaeth yr Ardd, byddai medru’r Gymraeg yn golygu y gallai bod arweiniad cryf o ran y Gymraeg yn yr Ardd,” ychwanegodd Manon Elin.

“O gofio mai dim ond un o benaethiaid adrannau’r Ardd sy’n medru’r Gymraeg, mae dybryd angen gweithredu, a hynny cyn i’r Ardd ddod o dan Safonau’r Gymraeg ymhen rhai misoedd – gall arweiniad a gweledigaeth gyflawni mwy na rheoleiddio.

“Dyma her i Huw Francis felly – rydyn ni’n obeithiol y gall pethau newid er budd y Gymraeg yn yr Ardd.”

Edrych ymlaen at yr ‘her’

Dywedodd Huw Francis ei fod yn edrych ymlaen at gael dod yn ôl i Gymru, at yr “her” a “gweithio gyda thîm talentog yr Ardd.”

Cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Olchfa, Abertawe, a Phrifysgol Cranfield, gyda gradd mewn peirianwaith.

“Rydym wrth ein bodd bod Huw yn ymuno â ni. Bydd yn ased wrth i ni edrych at symud yr Ardd ymlaen at ddyfodol newydd, disglair,” meddai Cadeirydd y Bwrdd o Ymddiriedolwyr yr Ardd, Rob Jolliffe.

Bydd yn dechrau ar ei swydd ar 13 Mehefin.