Hepatitis A, Llun: Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau bod wyth person o ardal Caerffili wedi’u heintio â’r firws Hepatitis A.

Daw hyn yn dilyn achos o’r firws yn ysgol gynradd Glyn-Gaer yn Hengoed, ac mae chwech o’r achosion yn ymwneud â’r ysgol honno.

Mae’r ddau achos arall yn bobl o’r gymuned leol, ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, arbenigwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a chynrychiolwyr o Gyngor Bwrdeistref Caerffili yn parhau i ymchwilio i’r achos.

Yn gynharach eleni, fe gafodd 222 o ddisgyblion a 48 o oedolion eu brechu rhag yr haint yn dilyn amheuon amdano yn yr ysgol.

Dyw’r brechiad ddim yn cael ei gynnig gan y Gwasanaeth Iechyd fel arfer, am fod achosion o Hepatitis A yn brin gyda 13 o achosion yng Nghymru yn 2012.

‘Rheoli’r firws’

Dywedodd Heather Lewis, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, eu bod yn “hyderus hyd yn hyn fod yr holl gamau iechyd cyhoeddus wedi eu cymryd i reoli’r firws a bod y risg i’r cyhoedd yn parhau’n isel.”

Er hyn, ychwanegodd, “am fod y cyfnod heintus yn hir, efallai y byddwn ni’n gweld achosion mwy difrifol.”

Symptomau

Esboniodd fod y symptomau’n cynnwys “blinder, poenau cyffredinol, pen tost, gwres, diffyg awydd am fwyd, cyfog, poen yn y bol, clefyd melyn, pasio dŵr sy’n dywyll iawn a chroen coslyd.”

Ychwanegodd y gall plant nad sydd â symptomau drosglwyddo’r firws i eraill, a’r ffordd orau o’i osgoi yw golchi dwylo yn drwyadl.

Mae ymgynghorwyr iechyd yn annog rhieni i beidio ag anfon eu plant i’r ysgol am saith diwrnod os ydyn nhw’n amau bod ganddyn nhw Hepatitis A.