Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud bod corff wedi cael ei ganfod yn Afon Menai, yn ardal Treborth, ger Bangor.

Cafodd yr heddlu eu galw am 6:38yh nos Lun, 2 Mai, gan aelod o’r cyhoedd, oedd wedi gweld y corff yn y Fenai, ac fe wnaeth Gwylwyr y Glannau dynnu’r corff o’r dŵr.

Dydy’r corff heb gael ei adnabod na’i enwi’n swyddogol eto ond mae’r crwner wedi cael gwybod ac mae ymholiadau’r heddlu wedi dechrau.