Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau bod dyn, 18 oed, wedi’i arestio am geisio defnyddio arian ffug i brynu car.

Ym mis Chwefror, fe ddaeth i’r amlwg fod y dyn o ardal Pont-y-pŵl wedi prynu Volkswagen Golf GTI gyda’r arian ffug.

Fe gafodd ei ddal yn gyrru’r car ddoe (dydd Llun Mai 2) o gwmpas ardal Kingsway yng Nghasnewydd.

Mae wedi’i gyhuddo o yrru’n beryglus, twyll, gyrru heb yswiriant a meddu ar gyffur dosbarth B.