Mae’r gwaith manwl o chwilio am bysgotwr sydd wedi bod ar goll ers i’w gwch suddo oddi ar arfordir Sir Benfro, wedi dod i ben.

Fe ddaeth cadarnhad y prynhawn yma fod Gwylwyr y Glannau Aberdaugleddu wedi rhoi’r gorau i chwilio am Daniel Willington, 32 oed o Carew ger Dinbych-y-Pysgod.

Fe aeth ei gwch i drafferthion ar ol taro creigiau ddydd Gwener, tra’r oedd Daniel a’i dad, Gareth, yn mynd o gwmpas eu cewyll cimwch yn yr ardal.

Daethpwyd o hyd i Gareth Willington, 59, yn y tonnau ac fe’i cludwyd i’r ysbyty yn Hwlffordd, ond bu farw’n ddiweddarach.