Mae un o gefnffyrdd Ynys Mon wedi ail-agor, wedi dwyawr ar gau yn dilyn digwyddiad fore heddiw.

Fe gafodd y B5111 ei chau ger Llannerch-y-medd wedi i gar droi drosodd ger Capel Peniel toc cyn 10 o’r gloch y bore.

Fe gafodd gwraig ei chludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor, gan hofrennydd yr Ambiwlans Awyr.

Fe gafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw, ac fe dreulion nhw ychydig dros ddwy awr yn ymchwilio i achos y ddamwain. Fe gafodd y ffordd ei hagor tua 12.15yp.