Rhun ao Iorwerth
Mae Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, wedi addo heddiw y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn creu pennod o lewyrch economaidd drwy gyflwyno Cynllun Economaidd Cenedlaethol manwl heb ei debyg gan unrhyw blaid arall yn yr etholiad hwn.

Dywed Rhun ap Iorwerth mai amcan tymor-canol Plaid Cymru yw cau’r bwlch economaidd rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Gyfunol, gan ganolbwyntio ar gynyddu sgiliau’r gweithlu, creu swyddi sy’n talu’n dda a chreu twf economaidd.

“Mae Plaid Cymru’n cydnabod fod ar Gymru angen economi gref a gwydn er mwyn cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol,” meddai.

“I gyflawni hyn, bydd ein Cynllun Economaidd Cenedlaethol yn canolbwyntio ar godi lefelau sgiliau, cyflwyno strategaeth ddiwydiannol actif, a rhoi cynllun buddsoddiad isadeiledd cynhwysfawr ar waith.

“Comisiwn Isadeiledd Cenedlaethol Plaid Cymru – NICW – fydd y prosiect buddsoddiad isadeiledd mwyaf ers datganoli, wedi ei ddylunio i drawsnewid ffyrdd, rheilffyrdd, ysgolion, ysbytai a chartrefi Cymru.

“Bydd ein Hasiantaeth Datblygu Cymru yn helpu ein busnesau cartref i lwyddo gan roi hwb i allforion, a bydd yn denu buddsoddiad o ledled y byd gan adfer y brand Cymreig oedd unwaith yn cael ei adnabod yn rhyngwladol.

“Mae gan weledigaeth economaidd Plaid Cymru uchelgais a sgop ddihafal. Os ydym am gau’r bwlch economaidd rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Gyfunol mae’n hanfodol ein bod yn dod ag egni newydd i’r economi Gymreig.”