Mae staff Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn parhau ar streic heddiw, a hynny tros ffrae yn ymwneud â thâl.

A hithau’n Wyl y Banc, mae aelodau o undeb y PCS yn atal eu llafur heddiw mewn rhan o atyniadau mwyaf Cymru.

O ganlyniad, mae safleoedd yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Drefach-Felindre yn Sir Gaerfyrddin ynghau, ynghyd â Bit Pit ym Mlaenafon.