Courtney Norris (llun gan Heddlu Dyfed Powys)
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn chwilio am ferch 15 oed sydd wedi bod ar goll ers prynhawn ddoe.

Cafodd Courtney Norris o Glan-y-Fferi ei gweld ddiwethaf yng Nghaerfyrddin tua 1.15pm a chaiff ei disgrifio fel merch o 5 troedfedd o daldra ac iddi wallt hir syth brown.
Roedd yn gwisgo hwdi pinc, jins du a trainers pinc.

Dywed yr heddlu fod ganddi gysylltiadau â Sir Benfro ac Abertawe ac maen nhw’n apelio ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth amdani gysylltu â nhw ar 101.