Nathan Van Poetsch (llun gan Heddlu Dyfed Powys)
Dywed Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn bryderus am ddyn 35 oed o Saundersfoot yn Sir Benfro sydd wedi bod ar goll ers bore Gwener.

Cafodd Nathan Van Poetsch ei weld ddiwethaf yn Kilgetty tua 8am, a caiff ei ddisgrifio fel dyn â gwallt tywyll byr, tua 5’6” o daldra. Pan gafodd ei weld ddiwethaf roedd yn cario rycsac mawr ar ei gefn.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth amdano gysylltu â’r heddlu ar 101.