Les Morrison
Fe fydd gŵyl Pesda Roc yn ôl y penwythnos hwn, er cof am un fu’n amlwg iawn yn y sîn canu roc Cymraeg.

Bu Les Morrsion yn helpu sawl band amlwg ym Methesda fel Maffia Mr Huws, Celt a Jacsyn Ffeif. Roedd ganddo stiwdio ar y Stryd Fawr lle bu’r Super Furry Animals a Cerys Matthews yn recordio.

Bu farw yn 2011, pum mlynedd yn union i’r penwythnos hwn, ac mae’r gymuned am dalu teyrnged iddo gyda dwy noson o gigs.

Teulu am ‘roi yn ôl’

Roedd yr ŵyl wedi cael ei chynnal yn 2011, ar ôl ei farwolaeth fel teyrnged iddo, ond yn ôl un o’r trefnwyr a rheolwr Neuadd Ogwen, y teulu sydd wedi trefnu llawer eleni.

“Meibion Les sydd wedi setio’r lein-yp, dw i’n meddwl bod y teulu am roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned,” meddai Dilwyn Llwyd wrth golwg360.

Dywedodd fod Les Morrison wedi golygu llawer i’r gymuned a hynny am ei fod “wedi rhoi ei fywyd i hyrwyddo, helpu recordio a datblygu cerddoriaeth yn lleol”.

Mae disgwyl i Celt, Maffia Mr Huws, Yucatan a Dyl Mei berfformio ar y nos Sul, gyda Sen Segur yn ail-ffurfio’n arbennig hefyd.

Bydd bandiau lleol electronig fel LSN, Hoax Emcee, Radio Rhydd, The Chillingtons a Phill Burrows yn chwarae nos yfory.

Bydd meibion Les Morrison yn rhai o’r bandiau hefyd, yn chwarae gyda Yucatan, Sen Segur, Radio Rhydd, The Chillingtons a The Zaytones.

Gobaith ail-gynnal Pesda Roc yn flynyddol?

Mae gŵyl Pesda Roc, gafodd ei sefydlu yn yr 1980au, ond yn digwydd yn achlysurol ar hyn o bryd. Ond y gobaith yw ei gwneud yn ddigwyddiad blynyddol unwaith eto.

“Mae hwn ‘falla’n mynd i fod yn trigger i ail-gynnal fo a mi wnawn ni drio cario ‘mlaen o’r pwynt yma,” meddai Dilwyn Llwyd.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal nos fory a nos Sul, gydag unrhyw elw yn mynd tuag at weithdai cerddoriaeth a Brwydr y Bandiau ar gyfer cerddorion ifanc lleol. Mae modd prynu tocynnau ar wefan Neuadd Ogwen.

Lein yp llawn

NOS SADWRN, 8 o’r gloch

LSN

HOAX EMCEE

RADIO RHYDD

THE CHILLINGTONS

PHIL BURROWS

NOS SUL, 7 o’r gloch

CELT VS MAFFIA

SEN SEGUR

YUCATAN

ZAYTONES

JIM SPREAD

HEI MR DJ MEI