Mae chwe myfyriwr wedi ennill £18,000 rhyngddyn nhw a hynny am gyflwyno ceisiadau “creadigol” i Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn dweud pam eu bod am astudio’r Gymraeg.

Dyma’r ail flwyddyn i’r Ysgol gynnig yr Ysgoloriaethau Meddyliau Creadigol, gan symud oddi wrth y system arferol o osod papur arholiad neu draethawd i ymgeiswyr

Cafodd yr ysgoloriaethau eu lansio er mwyn cynyddu’r nawdd ariannol sy’n cael ei gynnig gan yr Ysgol i fyfyrwyr.

Mae gofyn i ymgeiswyr lunio cais sydd yn arddangos eu creadigrwydd, yn cyfleu eu personoliaeth ac yn mynegi eu syniadau mewn dull gwreiddiol.

Cafwyd 19 o geisiadau eleni, meddai’r brifysgol , oedd yn cynnwys posteri, cerddi a darnau o gelf o bob cwr o Gymru.

Tri chwestiwn yn y cais

·          Pam yr ydych chi am astudio’r Gymraeg yng Nghaerdydd?

·          Beth sy’n eich gwneud chi’n ymgeisydd arbennig?

·          Pam y dylai Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd eich derbyn chi?

Roedd pum ysgoloriaeth, gwerth £3,000 yr un, ar gael ond oherwydd safon uchel y ceisiadau ac ymdrech yr ymgeiswyr, cafodd chwe unigolyn eu gwobrwyo.

Y chwech fydd yn cael £3,000 yr un ar ôl cyrraedd y brifysgol ym mis Medi yw,

·    Cadi Jones – Ysgol Brynhyfryd

·    Esther Llwyd Ifan – Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

·    Gwen Shenton – Ysgol Gyfun Ystalyfera

·    Kate Sloan – Ysgol Greenhill

·    Katy Wills – Ysgol Uwchradd Llanisien

·    Lleu Bleddyn – Ysgol Bro Hyddgen

“Roedd hi’n anodd i’r beirniaid ddewis yr enillwyr gan fod pob un o’r ceisiadau yn haeddiannol yn eu ffordd eu hunain,” meddai Dr Siwan Rosser, Swyddog Derbyn Ysgol y Gymraeg.

“Oherwydd y safon uchel penderfynwyd dyfarnu ysgoloriaeth lawn i chwe darpar fyfyriwr a rhannu swm ychwanegol o £2,500 rhwng ymgeiswyr eraill yr ysgoloriaethau.

Mae pum Ysgoloriaeth Meddyliau Creadigol ar gael i ddarpar fyfyrwyr israddedig ar gyfer y Brifysgol yn 2017. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 28 Chwefror 2017. Cysylltwch â Swyddfa’r Ysgol am ragor o wybodaeth.