Super Furry Animals mewn gig (llun: Flickr/Mark Turner)
Bydd cynhadledd arbennig yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd fis nesaf ar gyfer pobol sy’n trefnu gigs yng Nghymru, er mwyn trafod rhai o’r heriau sy’n eu hwynebu.

Mae’r digwyddiad yng Nghlwb Ifor Bach ar 17 Mai wedi’i drefnu gan Music Venue Trust, elusen gafodd ei sefydlu ddwy flynedd yn ôl i amddiffyn a hyrwyddo lleoliadau cerddoriaeth fyw.

Yn ôl ffigyrau diweddar, roedd twristiaeth yn ymwneud â digwyddiadau cerddorol werth £95m i economi Cymru yn 2014, gan ddenu dros 200,000 o ymwelwyr.

Gobaith y trefnwyr yw y bydd y gynhadledd hefyd yn gyfle i hyrwyddwyr rhwydweithio yn ogystal â chlywed gan sefydliadau cenedlaethol ym maes diwylliant a’r diwydiant cerdd.

‘Torcalonnus’

Mae’r digwyddiad wedi ei drefnu mewn partneriaeth ag UK Music, gyda chefnogaeth y Cyngor Celfyddydau, ac mae disgwyl i sefydliadau eraill fel Undeb y Cerddorion ac Attitude is Everything fod yno hefyd.

Yn ôl y Music Venue Trust mae’r heriau sydd yn wynebu digwyddiadau yng Nghymru yn cynnwys lleoliadau yn gorfod cau oherwydd cwynion am sŵn, diffyg cyllid neu newidiadau i amodau trwyddedu.

Mae hynny yn gallu bod yn “dorcalonnus nid yn unig i ddilynwyr cerddoriaeth, ond y staff sy’n rhedeg pob lleoliad, hyrwyddwyr sy’n trefnu sioeau, cerddorion newydd a’r economi leol ehangach”.

Dysgu am yr heriau

“Fel sefydliad sy’n weithredol ar draws y DU, mae’n bwysig i ni bwysleisio ein bod yn cynrychioli lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad ledled Prydain ac er mwyn gwneud hyn mae angen i ni fynd allan i siarad â’r bobl sy’n rhedeg y lleoliadau hynny,” esboniodd Beverley Whitrick, Cyfarwyddwr Strategol Music Venues Trust.

“Rydym yn ymwybodol mai nifer bychan o aelodau’r Music Venues Alliance sydd gennym yng Nghymru hyd yma ond rydym yn awyddus i ddatblygu ein rhwydweithiau a gwrando ar y materion sydd o bwys i leoliadau yno.

“Bydd rhai o’r sialensiau’r un fath ag yn Lloegr neu’r Alban, ond gallai eraill fod yn benodol i Gymru, felly dyma rywbeth y mae angen i ni ei wybod.”