Caerdydd (Welshleprechaun CCA1.0)
Caerdydd yw un o’r dinasoedd gwaetha’ i bobol sydd eisiau prynu tŷ am y tro cynta’, yn ôl arolwg newydd.

Mae bron hanner y ddinas y tu hwnt i gyrraedd pobol o’r fath … a’r sefyllfa wedi gwaethygu’n ofnadwy yn ystod yr ugain mlynedd diwetha’.

Yn ôl arolwg gan adran forgeisi cwmni Post Office Money, mae tai mewn 48% o ardaloedd Caerdydd yn rhy ddrud i brynwyr tro cynta’.

Ugain mlynedd yn ôl, dim ond tai mewn 10% o ardaloedd oedd yn costio gormod.

Yr arolwg

Roedd yr adran forgeisi wedi edrych ar gyfartaledd prisiau tai mewn gwahanol rannau o rai o ddinasoedd mawr gwledydd Prydain a chymharu hynny gyda chyfartaledd incwm pobol sydd eisiau prynu am y tro cynta’.

Roedden nhw wedyn wedi cymharu’r sefyllfa yn 2015 gyda’r un dinasoedd yn 1995 ac maen nhw’n dweud bod y sefyllfa wedi gwaethygu’n ddrwg.

Y ddinas gyda’r broblem fwya’ yw Brighton lle’r oedd 100% o ardaloedd yn fforddiadwy i brynwyr tro cynta’ yn 1995 – dim ond 9% o ardaloedd sydd o fewn eu cyrraedd bellach.

Yn Llundain, roedd y ffigwr wedi newid o 91% y 1995 i 41% y 2015.

‘Mannau tywyll’

“Mae’r ffigurau hyn yn tanlinellu’r sialens sy’n wynebu prynwyr tro cynta’ y dyddiau yma,” meddai John Willcock, pennaeth morgeisi Post Office Money.

“Mae dinasoedd yn datblygu’n fannau tywyll sy’n rhy ddrud i bobol sydd am ddechrau prynu eiddo, gyda phrisiau ar gyfartaledd ymhell y tu hwnt i’r incwm nodweddiadol.”