Jeremy Corby yn cadw draw (Garry Knight CCA2.0)
Mae’n ymddangos bod y Blaid Lafur yng Nghymru wedi canslo ymweliad gan yr arweinydd Prydeinig Jeremy Corbyn, oherwydd yr helynt tros honiadau am wrth-Semitiaeth yn y blaid.

Roedd disgwyl y byddai Jeremy Corbyn yn cymryd rhan yn ymgyrch etholiad y Cynulliad heddiw ond mae’n ymddangos bellach na fydd hynny’n digwydd.

Rhan o bryder y Blaid Lafur yng Nghymru fyddai syrcas gyfryngau o amgylch yr ymweliad, gyda’r sylw i gyd ar helyntion y blaid yn hytrach na’r etholiad.

Ac mae gwrthwynebwyr gwleidyddol Jeremy Corbyn o fewn y blaid wedi bachu ar y cyfle i ymosod arno am ymateb yn rhy ara’.

‘Dim argyfwng’ meddai Corbyn

Neithiwr fe wadodd Jeremy Corbyn fod yna “argyfwng” yn y Blaid Lafur ar ôl i gyn-Faer Llundain, Ken Livingstone, a’r AS Naz Shah, gael eu hatal o’r blaid tros sylwadau sy’n cael eu galw’n wrth-Semitaidd.

Roedd y ffrae fwya’ tros sylwadau Ken Livingstone, sy’n un o gefnogwyr penna’ Jeremy Corbyn – mewn cyfweliad radio, roedd wedi honni bod Adolf Hitler ar un adeg wedi cefnogi’r syniad o wladwriaeth i’r Iddewon.

Roedd hynny wrth iddo geisio amddiffyn Naz Shah a oedd wedi ei gwahardd ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei bod wedi cyhoeddi negeseuon yn beirniadu Israel a’r Iddewon ddwy flynedd yn ôl.

Beirniadu

Ers hynny, mae rhes o wrthwynebwyr Jeremy Corbyn o fewn y blaid, gan gynnwys dau yr oedd wedi eu curo yn ras yr arweinyddiaeth wedi ei feirniadu.

Yn ôl Yvette Cooper ac Andy Burnham, a chyn-aelod arall o gabinet y Blaid Lafur, Rachel Reeves, roedd yr arweinydd wedi bod yn rhy ara’n ymateb i’r sylwadau.

Yn ôl Jeremy Corbyn ei hun, mae llawer o’r feirniadaeth yn dod o gyfeiriad pobol sy’n bryderus am gryfder y Blaid Lafur ar lawr gwlad.