Pwy fydd yn arwain eu plaid nhw i fuddugoliaeth ar 5 Mai, yn eich tyb chi? (llun: BBC Cymru)
Wrth i ni agosáu at etholiadau’r Cynulliad mae’r arolygon wedi bod yn ceisio gweld i ba gyfeiriad y mae’r gwynt yn chwythu – a’r gwleidyddion eu hunain yn hapus i fynnu nad oes “neb yn credu’r polau beth bynnag”.

Felly dyma’ch cyfle chi i ddarogan canlyniadau’r bleidlais ar 5 Mai, wrth i ni gynnal cystadleuaeth Ffantasi Etholiad 2016 arbennig ar Golwg360!

Fe fydd y rheiny ohonoch chi sydd wedi chwarae fersiynau o ffantasi ffwtbol a rygbi yn y gorffennol yn weddol gyfarwydd â sut mae’r math yma o beth yn gweithio.

Yn syml, dewiswch 10 o’r 40 etholaeth yn etholiadau’r Cynulliad, ac yna darogan pa blaid fydd yn ennill yno – gyda llai o bwyntiau i’w hennill os ydych chi’n dewis y ceffyl blaen, a mwy ar gael am ddarogan buddugoliaeth annisgwyl.

Ac i wneud pethau’n fwy diddorol, mae gennym ni rywfaint o bwyntiau bonws i’w dosbarthu os llwyddwch chi i ddarogan ambell ganlyniad ychwanegol, fel y seddi rhanbarthol neu’r canlyniad agosaf.

Lawrlwythwch y ddogfen Ffantasi Etholiad 2016 wrth glicio ar y linc hwn (does dim rhaid i chi fod â Dropbox i’w lawrlwytho).

Rhan Un

Dewiswch y blaid ‘dych chi’n meddwl sydd am ennill mewn DIM OND 10 O’R ETHOLAETHAU yng Nghymru – rhaid i chi ddewis 5 o’r etholaethau ‘melyn’, 3 o’r etholaethau ‘oren’, a 2 o’r etholaethau ‘gwyrdd’.

Mae’r rhif wrth bob plaid yn dynodi faint o bwyntiau gewch chi os ydych chi wedi dyfalu’n gywir.

Felly cofiwch – fe gewch chi fwy o bwyntiau os ydych chi’n darogan buddugoliaeth i blaid sydd heb fod yn ffefryn!

Rhan Dau

Dyfalwch y canlyniadau ar gyfer y categorïau eraill. Pa bleidiau fydd yn ennill y 4 sedd ym mhob un o ranbarthau Cymru? Sawl sedd fydd pob plaid yn ennill (cofiwch fod yn rhaid i’r cyfanswm fod yn union 60)?

Ym mha etholaeth fydd y pleidiau’n cael eu canran uchaf o’r bleidlais? Ble fydd y canran uchaf ac isaf o ran nifer y bobol yn pleidleisio? Ble fydd y canlyniad agosaf, a’r un mwyaf clir?

Ar ôl i chi lenwi’r grid Excel gyda’ch darogan, anfonwch y ddogfen nôl i ni ar e-bost at iolocheung@golwg.com, gan gofio nodi’r ENW rydych chi eisiau i ni ei ddefnyddio ar eich cyfer yn y gynghrair Ffantasi Etholiad (cewch ddefnyddio ffugenw os ‘dych chi eisiau).

Pob lwc!