Mae gyrrwr ambiwlans wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad difrifol gydag ambiwlans arall ger Pwllheli yng Ngwynedd.

Cafodd Heddlu’r Gogledd eu galw i’r safle ar ffordd yr A499  rhwng Y Ffôr a Llanaelhaearn am 3yp prynhawn ma.

Bu farw’r gyrrwr ambiwlans yn y fan a’r lle ac mae ei deulu wedi cael gwybod.

Cafodd tri o bobl eraill eu cludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor  a chredir  bod ganddyn nhw anafiadau difrifol.

Mae disgwyl i’r A499  fod ynghau am rai oriau eto ac mae’r traffig yn cael ei ddargyfeirio.

Mae’r heddlu’n apelio am lygad-dystion a dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod U060780.