Mae teulu o dde Cymru wedi cael eu dyrnu a’u cicio’n anymwybodol mewn ymosodiad yng Ngwlad Thai.

Bu’n rhaid i’r teulu gael triniaeth yn yr ysbyty ar ôl i griw o ddynion ymosod arnyn nhw yn Hua Hin yn ystod dathliadau’r Flwyddyn Newydd yng Ngwlad Thai ar Ebrill 13.

Mae’r tri dioddefwr wedi cael eu henwi fel Lewis a Rosemary Owen, 68 a 65 oed, a’u mab Lewis. Roedd yr heddlu yng Ngwlad Thai wedi awgrymu bod y teulu’n dod o’r Alban i ddechrau ond mae cymdogion iddyn nhw wedi dweud eu bod yn dod o Wenfô ym Mro Morgannwg.

Dywedodd John Miles, 65, darlithydd wedi ymddeol ym Mhrifysgol Caerdydd, ei fod wedi clywed am yr ymosodiad gan ferch y cwpl.

Ychwanegodd eu bod yn mynd yn aml i Wlad Thai i ymweld â ffrindiau,  a bod eu mab sy’n byw yn  Singapore wedi hedfan allan yno i gwrdd â nhw.

Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Twristiaeth Gwlad Thai (TAT) bod chwech o bobl wedi eu harestio yn dilyn yr ymosodiad a chawsant eu cyhuddo ar Ebrill 17.

Mae’r teulu wedi cael caniatâd i adael yr ysbyty ac mae disgwyl i Lewis a Rosemary Owen ddychwelyd i’r DU yr wythnos nesaf, tra bod eu mab eisoes wedi dychwelyd i Singapore.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Heddlu yng Ngwlad Thai fod yr ymosodiad wedi digwydd ar ôl i’r mab daro’n ddamweiniol i mewn i un o’r dynion.