Gŵyl Glass Butter Beach Llun: O wefan yr ŵyl
Mae tocynnau bellach yn cael eu gwerthu ar gyfer gŵyl gerddoriaeth, syrffio a thonfyrddio yn Llanbedrog ger Abersoch.

Daeth cadarnhad yn ddiweddar y byddai trefnwyr Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion yn rhannol gyfrifol am drefnu Glass Butter Beach, sy’n cael ei chynnal rhwng Awst 19 a 21.

Mae tocynnau diwrnod a phenwythnos ar gael erbyn hyn, ac mae gostyngiad o 25% ar docynnau penwythnos, gwersylla a thocynnau VIP i drigolion lleol sy’n byw yn ardal LL53 – ond y cyntaf i’r felin fydd hi.

Bydd 5,000 o bobol yn mynd i’r ŵyl eleni i glywed perfformiadau byw gan Wolf Alice, Kodaline, Katy B, Mystery Jets, Jamie Lawson, Andy C, Naughty Boy a llawer mwy.

Ymhlith y gweithgareddau sy’n cael eu cynnig yn ystod yr ŵyl mae syrffio, tonfyrddio, sglefrfyrddio, rhwyf-fyrddio a phêl-foli traeth.

Mae uchafswm o ddau docyn ar gyfer pob tŷ ar gael i’w prynu o Offaxis & Coastal Culture yn Abersoch a Red 1 a Huws Gray ym Mhwllheli.

‘Cynnydd yn y galw’ 

Dywedodd sylfaenydd yr ŵyl, Mark Durston: “Fedren ni ddim bod yn hapusach efo’r ymateb a’r cariad at yr ŵyl eleni ac rydym yn falch o gyhoeddi bod tocynnau diwrnod bellach ar werth ac am y tro cyntaf, tocynnau penwythnos efo gostyngiad yn lleol.

“Oherwydd cynnydd yn y galw, rydym wedi penderfynu gwerthu nifer gyfyngedig o docynnau am ostyngiad drwy siopau lleol. Bydd hyn ar sail y cyntaf i’r felin felly rydym yn argymell archebu’n gynnar!”

Bydd rhagor o artistiaid yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Am ragor o fanylion, ewch i wefan Glass Butter Beach.