Dadl arweinwyr pleidiau'r Cynulliad, gyda Huw Edwards yn holli barn y gynulleidfa, Llun: BBC Cymru
Neithiwr, fe aeth arweinwyr pleidiau’r Cynulliad benben â’i gilydd yn eu dadl olaf cyn etholiadau’r Cynulliad, ddydd Iau nesaf, 5 Mai.

Addysg, iechyd a’r economi gafodd y sylw mwyaf yn y ddadl deledu yng Nghaerdydd, ynghyd â’r argyfwng dur sy’n wynebu’r wlad, wrth i’r pleidiau geisio darbwyllo pobol i roi eu pleidlais iddyn nhw.

Bu’n rhaid i Brif Weinidog presennol Cymru, Carwyn Jones, amddiffyn record ei Lywodraeth Lafur yn ystod y tymor diwethaf, lle gafodd ei herio, yn enwedig ar record ei blaid ym maes iechyd.

Ond dywedodd y Prif Weinidog fod pethau’n well yng Nghymru heddiw yn gyffredinol, dan ei arweiniad ef.

Llafur yn ‘claddu ei phen yn y tywod’

Y pleidiau eraill, oedd yn rhan o’r ddadl oedd Leanne Wood o Blaid Cymru, Andrew RT Davies o’r Ceidwadwyr Cymreig, Kirsty Williams dros y Democratiaid Rhyddfrydol, Nathan Gill o UKIP a Alice Hooker-Stroud o’r Blaid Werdd yng Nghymru.

Fe wnaeth pob un o’r pleidiau gyhuddo Llafur o ‘gladdu ei phen yn y tywod’ a gwrthod cyfaddef i’w methiannau.

Ar ddiwedd y ddadl, a gafodd ei darlledu gan BBC Cymru, roedd pob plaid yn datgan buddugoliaeth ac yn mynnu mai eu harweinydd nhw ddaeth allan ohoni orau.

Fodd bynnag, bydd y bleidlais fawr yn digwydd wythnos i heddiw, gyda’r pleidiau yn cael gwybod os ydyn nhw wedi gwneud digon i sicrhau cefnogaeth yr etholwyr.

Codi dadl ar Twitter

Roedd hashnod y rhaglen, #BBCWalesDebate, yn ‘trendio’ ar Twitter ar draws y DU yn ystod y ddadl, gyda dros 15,000 o sylwadau ar ornest yr arweinwyr.

A chyrhaeddodd y gyfres Ask the Leader, dros 300,000 o wylwyr, yn ystod ei darlledu rhwng Ebrill 11 a 15, lle’r oedd pob arweinydd yn cael ei dro i ateb cwestiynau o flaen cynulleidfa fyw.