Leighton Andrews
Mae un o Weinidogion Llywodraeth Cymru wedi cael ei feirniadu am gael ei gludo gan chauffeur rhwng ei gartref yng Nghaerdydd a’r Cynulliad.

Mae Plaid Cymru wedi lambastio Leighton Andrews am wario arian o’r pwrs cyhoeddus ar y gyrrwr ond mae Llafur yn dweud bod yr honiadau’n “pathetig”.

Mae’r cofnodion a gafodd eu cyhoeddi o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth hefyd yn dangos fod  Aelod Cynulliad y Rhondda wedi cael ei gludo rhwng ei gartref yn Llandaf ac adeilad Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays ac i stiwdio’r BBC yn Llandaf.

Doedd dim cofnod ohono’n cael ei yrru yn ôl i’w dŷ yn y Rhondda, sy’n codi’r angen am “eglurder o ran ble’n union mae’n byw”, yn ôl Plaid Cymru.

“Dyma enghraifft arall o Weinidog Llafur di-glem yn gwneud y mwyaf o fanteision y swydd,” meddai’r Cynghorydd Emyr Webster, ar ran Plaid Cymru.

 

“Mae’n debyg fod y Gweinidog yn fodlon iawn i gael ei gludo yma ac acw, dim ots beth fo’r gost i’r trethdalwr. Rwy’n siŵr y bydd pobl hefyd eisiau eglurder o ran ble’n union mae’n byw, o ystyried nad oes unrhyw record ohono’n cael ei gludo i, nag o, ei etholaeth yn y Rhondda.”

 

Leanne ‘wedi colli unrhyw obaith o ennill’

 

Dywedodd Llafur Cymru wrth golwg360 mai yn y Rhondda mae Leighton Andrews yn byw ac ymatebodd y blaid i’r honiadau drwy ddweud bod y gyrrwr a’r car wedi cael eu defnyddio ar achlysuron pan oedd yn gwneud gwaith gweinidogol yn unig.

Yn ôl Llafur, mae Plaid Cymru wedi “ymosod” ar Leighton Andrews, gan ei bod yn “gwybod” ei bod yn colli iddo fe yn y Rhondda, lle mae ei harweinydd, Leanne Wood, yn sefyll.

“Mae Leighton yn gyrru ei hun o gwmpas y Rhondda ac o’r Rhondda i Gaerdydd a nôl yn ei Saab naw oed,” meddai llefarydd.

Cyhuddodd Leanne Wood o dreulio “ychydig iawn o amser” yn ymgyrchu yn y Rhondda yn ystod yr etholiad a’i bod “yn amlwg wedi colli unrhyw obaith o ennill”.

“I’r gwrthwyneb, mae Leighton wedi gweithio’n ddiflino dros y Rhondda  yn ystod ei amser fel yr Aelod Cynulliad lleol, ac mae ganddo hanes o lwyddo,” ychwanegodd llefarydd Llafur.