Llun: Heddlu De Cymru
Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi enw dyn a gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad ger Castell-nedd ddydd Sul.

Bu farw David Griffiths, 25, yn dilyn y gwrthdrawiad un cerbyd ar y B4242 ger pentref Abergarwed am oddeutu 6.45yh.

Roedd yn gyrru Citroen coch ar y pryd.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu: “Ein David ni oedd bywyd ac enaid y parti, yn ddyn cariadus, caredig y bydd colled fawr ar ei ôl i’w deulu a’i ffrindiau niferus.”

Mae Heddlu’r De yn apelio am dystion, a dylai unrhyw un â gwybodaeth eu ffonio ar 101.