Llun: PA
Mae trwch o ymatebion wedi bod yn dilyn dyfarniad y rheithgor heddiw bod 96 o gefnogwyr pêl-droed Lerpwl fu farw yn nhrychineb Hillsborough wedi’u lladd yn anghyfreithlon.

Dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams, fod y teuluoedd bellach wedi cael cyfiawnder, 27 mlynedd ers i’r trychineb ddigwydd.

Cododd gwestiynau ynglŷn â’r system gyfiawnder ym Mhrydain gan ddweud ei fod yn un o’r “enghreifftiau mwyaf arwyddocaol o gamweinyddu cyfiawnder” yn y wlad.

“Ar ôl blynyddoedd o ymladd yn erbyn llanw o anwireddau a chyhuddiadau di-sail, gall teuluoedd y rhai gafodd eu lladd yn y trychineb ddatgan yn hyderus fod cyfiawnder ar gyfer y 96 wedi cael ei wneud,” meddai Hywel Williams AS.

‘Angen atebolrwydd’

Cyfeiriodd at bapur newydd The Sun, a oedd wedi beio cefnogwyr Lerpwl am y trychineb, gan ddweud y dylai “perchnogion a golygyddion y papur fod â’r cywilydd mwyaf.”

 

“Mae wedi cymryd 27 o flynyddoedd i’r gwir ddod i’r amlwg. Trwy gydol y cyfnod yma bu teuluoedd a chefnogwyr yn destun anwiredd a chelwydd, nid lleiaf gan bapur cenedlaethol,” meddai.

“Mae’r teuluoedd wedi delio â’r holl fater yma gydag urddas tawel a dyfalbarhad, gan gynnwys eu cefnogwyr, nifer ohonynt o ogledd Cymru. Maent wedi cael cyfiawnder. Nawr mae angen atebolrwydd.”

‘Effaith ddinistriol’ ar y gymuned yn Y Fflint

Roedd Catherine Henry, sydd bellach yn byw ym Manceinion, yn yr un ysgol â John McBrien o Dreffynnon, Sir y Fflint, un o’r cefnogwyr a fu farw’n 18 oed.

“Aeth John i’r un ysgol a fi, roedd e ond ychydig o flynyddoedd yn hŷn na fi,” meddai wrth golwg360.

“Roedd gan Ysgol Uwchradd Holt wobr i gofio amdano o’r enw’r ‘John McBrien Memorial Award for Outstanding Sporting Achievement’, a enillais y wobr.

“Rwy’n ymwybodol o’r effaith ddinistriol mae’r trasiedi wedi ei chael ar ffrindiau, teuluoedd a phobol leol oedd yn nabod y dioddefwyr. Mae llawer o bobol o ogledd Cymru yn cefnogi Clwb Pêl-droed Lerpwl.

“Gallan nhw (y teuluoedd), o’r diwedd, symud ymlaen nawr.”

Bu farw un arall o Gymru hefyd – David Steven Brown, 25 oed o Holt, ger Wrecsam.

Canu ‘Youll Never Walk Alone’

Cafodd y rheithgor gymeradwyaeth gan y teuluoedd wrth iddyn nhw adael y llys, yn dilyn eu dyfarniad.

Wrth i deuluoedd adael yr adeilad, fe wnaeth llawer ohonynt ddechrau canu anthem Lerpwl, ‘You’ll Never Walk Alone’.

Fe wnaeth John Aldrige, oedd yn chwarae dros Lerpwl yn Hillsborough, drydar, “Ffantastig i weld ymateb y teuluoedd y tu allan i’r llys! Emosiynol iawn hefyd”.

Dywedodd un o brif ymgyrchwyr Hillsborough, Margaret Aspinall, a gollodd ei mab 18 oed, James, yn y gyflafan ei bod yn ddiolchgar iawn i bobol Lerpwl.

“Dwi’n meddwl ein bod wedi newid cyfnod mewn hanes nawr – dwi’n meddwl mai dyna’r rhodd y mae’r 96 wedi’u gadael,” meddai y tu allan i’r llys.