Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar “gefnogwyr y Gymraeg” i ddangos eu cefnogaeth i’r Gernyweg yn sgil toriad ariannol mae’r iaith yn ei hwynebu.

Daw hyn wedi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi y byddan nhw’n torri’r cyllid o £150,000 y flwyddyn roedd y Gernyweg yn ei dderbyn ers iddi gael ei chydnabod o dan Siartr ieithoedd lleiafrifol a rhanbarthol Ewrop.

“Mae’r swm hon yn gyfystyr â thua £50 y pen i bob un siaradwr neu ddysgwr y Gernyweg,” meddai Sioned Haf, Swyddog Rhyngwladol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Mae’n swm hynod o bitw yn y lle cyntaf – a nawr mae’n cael ei ddiddymu’n gyfan gwbl.”

‘Toriad haerllug’

 

Roedd yr arian ar gyfer y Gernyweg yn cael ei ddefnyddio i ariannu gweithgareddau addysgiadol, ynghyd â hybu defnydd ohoni o fewn y sectorau trafnidiaeth, twristiaeth, busnes a chyhoeddus.

“Mae’r toriad haerllug yma yn symptomatig o agwedd ddinistriol y llywodraeth Brydeinig bresennol tuag at y rheiny sydd fwyaf bregus ymysg ein cymunedau,”ychwanegodd Sioned Haf.

“Dw i’n amau a oes yna unrhyw ddealltwriaeth o ba fath o gefnogaeth sydd ei hangen ar iaith fel y Gernyweg i ddatblygu.

Am hynny, dywedodd eu bod yn galw ar “gefnogwyr y Gymraeg i ddangos eu cefnogaeth i’r Gernyweg.”

 

Ychwanegodd y byddan nhw’n trefnu ymgyrchoedd i gefnogi’r Gernyweg dros y misoedd nesaf.