Dafydd Elis-Thomas
Mae ymgeisydd UKIP yn etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi mynnu bod sylwadau diweddar Dafydd Elis-Thomas wedi bod yn hwb i’w ymgyrch.

Fe dynnodd cyn-arweinydd Plaid Cymru nyth cacwn i’w ben yr wythnos diwethaf ar ôl awgrymu y dylai etholwyr bleidleisio dros ymgeisydd Llafur, yn hytrach nag un o’i blaid ei hun, er mwyn ceisio atal UKIP.

Ond yn ôl Simon Wall, mae’n debygol y bydd y sylwadau yn cadarnhau barn etholwyr fod y pleidiau eraill i gyd yr un peth â’i gilydd.

Mynnodd Simon Wall fodd bynnag mai etholiadau’r Comisiynydd oedd ei flaenoriaeth – a hynny er ei fod hefyd yn ymgeisydd dros UKIP yn Ynys Môn yn etholiadau’r Cynulliad.

‘Gweld ni fel bygythiad’

Dywedodd Simon Wall wrth golwg360 fod sylwadau Dafydd Elis-Thomas yn arwydd fod y ‘drefn arferol’ yng ngwleidyddiaeth Cymru yn ofni UKIP.

“Mae o wir yn atgyfnerthu’n cefnogaeth ni. Mewn ffordd mae o wedi gwneud ffafr a ni,” meddai ymgeisydd UKIP.

“Er ei bod hi’n fy nharo i’n anghywir ei fod o’n apelio at bleidiau eraill, gelynion gydol oes, dim ond er mwyn cadw UKIP allan … mae’n dweud wrthym ni eu bod nhw’n gweld UKIP fel bygythiad. Ac wrth gwrs, rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n fygythiad.”

Mynnodd chwaith nad oedd y feirniadaeth o bolisïau ac agwedd ei blaid, a’r ffordd roedden nhw’n cael eu portreadu o fewn ‘rhai rhannau o’r wasg’, yn deg.

“Beth dw i ddim yn hapus efo ydi’r ffaith eu bod nhw wedi’n galw ni’n ‘eithafol’,” meddai.

“Dw i ddim yn eithafol mewn unrhyw ffordd o gwbl, dw i ddim yn ystyried ein polisïau ni’n rai eithafol, ac mae canran sylweddol o bobol yng Nghymru sydd ddim yn meddwl ein bod ni’n eithafol.”

Comisiynydd, nid Cynulliad

Cyfaddefodd Simon Wall fodd bynnag nad oedd e’n bersonol wedi rhoi cymaint o’i amser ac egni yn ymgyrchu ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, gan ddweud ei bod hi’n “gyfnod prysur” i “blaid fechan fel ni”.

“Fy mlaenoriaeth bendant i o’r cychwyn ydi’r etholiad ar gyfer y Comisiynydd Heddlu,” meddai.

“Felly na, dydi’r ymgyrch yn yr etholaeth [ym Môn] ddim wir wedi ymyrryd â hynny, achos dw i wedi canolbwyntio ar yr etholiad Comisiynydd Heddlu a Throsedd.”

Arfon Jones

Yn y cyfamser mae ymgeisydd arall ar gyfer swydd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi amddiffyn sylwadau a wnaeth ar Twitter bedair blynedd yn ôl gan ddweud mai “banter” oedd y sylwadau hynny.

Ar 1 Ebrill 2012, dywedodd Arfon Jones, ymgeisydd Plaid Cymru, ar Twitter y dylai pobol gynnal math o “brotest,” wrth iddo ymateb i gynigion Llywodraeth y DU i roi mwy o bwerau gwyliadwriaeth i’r gwasanaethau diogelwch.

Dywedodd y dylai “miloedd ohonom anfon e-byst yn cynnwys y geiriau bom, terfysgwr ac Iran. Dylai hynny gadw GCHQ yn dawel.”

Ond, mae ei sylwadau wedi cael eu beirniadu gan AS y Ceidwadwyr yng Ngorllewin Clwyd, a chyn-Ysgrifennydd Cymru David Jones, sy’n dweud bod ei farn yn “eithafol.”

Stori: Iolo Cheung