Yr Ymadawiad
Mae ffilm Gymraeg, sydd wedi’i lleoli yn nwfn yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin wedi cipio gwobr yng Ngwobrau’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd.

Enillodd Yr Ymadawiad y wobr Drama Sengl Orau, gan ddod ar y brig o restr fer o ddramâu a ffilmiau oedd hefyd yn cynnwys y cynhyrchiad ar S4C, Y Streic a Fi.

Mae’r ffilm, sydd wedi’i chyfarwyddo gan Gareth Bryn a’i hysgrifennu gan Ed Talfan, un o grewyr y gyfres Y Gwyll/Hinterland, yn edrych ar hanes perthynas dyn unig, Stanley a chwpl ifanc, Sara ac Iwan.

Pan fydd cwpl yn cael damwain a’r car yn sownd mewn nant ger ffermdy anghysbell, daw’r meudwy o ddyn, i’w hachub. Ond mae aflonyddu ar ei fywyd unig yn cael effaith annisgwyl ar eu bywydau i gyd.

Mae naws arswydus i’r ffilm, gyda’r prif gymeriadau yn cael eu portreadu gan Mark Lewis Jones, fel Stanley ac Annes Elwy a Dyfan Dwyfor, fel y pâr ifanc.

Cafodd ei chynhyrchu gan gwmni Severn Screen gyda Boom Pictures a Ffilm Cymru Wales ar gyfer S4C, a’i lleol yn Llanddeusant a Llyn Brianne, yn Sir Gâr.

Roedd y Gwobrau Cyfryngau Celtaidd yn Dungarvan, yn yr Iwerddon yr wythnos hon.

Disgwyl darlledu ar S4C

Mae disgwyl iddi gael ei dangos ar S4C yn y dyfodol, ond does dim dyddiad wedi’i bennu eto.

 

“Llongyfarchiadau i bawb sydd y tu ôl i gynhyrchu’r ffilm bwerus hon. Mae’n waith creadigol o’r safon uchaf sy’n llawn teilyngu’r wobr,” meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys.