Llys y Goron Birmingham
Mae cyn-bencampwr rhedeg mynydd o ganolbarth Cymru wedi ymddangos o flaen  llys heddiw wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio.

Ymddangosodd Lauren Jeska o Fachynlleth, drwy gyswllt fideo gerbron Llys y Goron Birmingham yn ystod gwrandawiad ugain munud, i gadarnhau ei henw.

Mae Jeska 41 oed wedi’i chadw yn y ddalfa yng ngharchar Styal yn Swydd Gaer.

Mae disgwyl iddi gyflwyno ple i gyhuddiad o geisio llofruddio Ralph Knibbs ar Fawrth 22 yn Stadiwm Alexander, Birmingham.

Mae Lauren Jeska wedi’i chyhuddo o ddau achos pellach o anafu anghyfreithlon a maleisus gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol i ddau ddyn arall, a meddu ar dri chyllell mewn ardal gyhoeddus.

Fe fydd Lauren Jeska yn cael ei chadw yn y ddalfa tan ei gwrandawiad nesaf ar Fehefin 16.