Fe fydd Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan yn clywed barn ymgyrchwyr, cynghorwyr a’r bobol leol ynglŷn â dyfodol ynni niwclear yng Nghymru mewn cyfarfod yng Nghaernarfon heddiw.

Fe fyddan nhw’n trafod y cynlluniau i adeiladu atomfa newydd yn Wylfa, Ynys Môn, ac mae disgwyl i Gyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Gareth Clubb, ddweud “nad oes dim dyfodol i ynni niwclear yng Nghymru.”

“Byddai’r goblygiadau ar Gymru, ei phobol, ei heconomi, ei hamgylchedd a’i hiaith yn amhosib dirnad,” ychwanegodd.

Daw’r cyfarfod yn ystod yr wythnos sy’n cofio trychineb Chernobyl, 30 mlynedd yn ôl.

‘Amheon am amserlen adeiladu Wylfa B’

Un arall fydd yn cyflwyno tystiolaeth heddiw fydd Dylan Morgan ar ran mudiad Pobol Atal Wylfa B (PAWB).

Fe fydd yn amlygu amheuon ynglŷn ag amserlen adeiladu Wylfa B, wedi i gadeirydd Hitachi, y cwmni sy’n berchen ar Horizon fynegi amheuon am fuddsoddi yn y safle ddechrau’r flwyddyn eleni.

“Aeth mor bell â dweud y gallai Hitachi dynnu allan o’r holl brosiect oherwydd diffyg diddordeb gan fuddsoddwyr,” meddai Dylan Morgan.

Daw ei sylwadau wedi i gwmni EDF Energy o Ffrainc fethu â sicrhau penderfyniad terfynol ynglŷn â’u buddsoddiad i brosiect gorsaf niwclear Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf.

‘Dirywio cyson’

Dadleuon eraill Dylan Morgan yw effaith y datblygiad ar bris trydan yng Nghymru, ynghyd â’r effaith ar yr iaith Gymraeg yn Ynys Môn.

Dywedodd y gallai’r cwmni gyflogi “tua 75% i 80% o’r gweithlu i adeiladu’r Wylfa o’r tu allan i’r ardal leol.”

Byddai hynny’n “ddiffygiol iawn o safbwynt rhoi ystyriaeth i ddyfodol y Gymraeg yn ei chadarnle yng ngogledd orllewin Cymru,” meddai gan ddweud fod “oes adeiladu a rhedeg gorsaf niwclear bresennol y Wylfa wedi cyd-daro â dirywiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yng nghymunedau gogledd a dwyrain Môn.”

Ychwanegodd fod “arwyddion clir iawn yn rhyngwladol mai dirywio cyson yw hanes y diwydiant niwclear.

“Dyma’r amser felly i symud datblygu cynhyrchu trydan yng Nghymru yn bendant iawn i gyfeiriad ynni adnewyddol yn ei holl amrywiaeth, boed yn wynt, solar, hydro, biomas, a’r amrywiol dechnolegau ynni yn y môr.”

Ynys Ynni 

Mae Cyngor Sir Ynys Môn eisoes wedi datgan eu cefnogaeth i ddatblygiad Wylfa Newydd, a bu cynghorwyr yn cyflwyno eu dadleuon y bore yma.

Yn y gorffennol, mae Arweinydd y Cyngor, Ieuan Williams, wedi cydnabod cyfraniad Wylfa B i Ynys Môn gan ddweud eu bod fel Cyngor yn “edrych ymlaen at Raglen Ynys Ynni sy’n cynnwys prosiect Wylfa Newydd.”