Y Cynulliad
Mae’r pôl piniwn diweddaraf ar etholiadau’r Cynulliad yn awgrymu bod cefnogaeth i’r Blaid Lafur yng Nghymru ar ei hisaf ers chwe blynedd.

Er hynny, mae’r blaid yn parhau i fod ymhell ar y blaen, gyda Phlaid Cymru, ar hyn o bryd, yn gyfforddus yn yr ail safle.

Dydy’r pôl ddim yn argoeli’n dda i’r Ceidwadwyr, sy’n parhau yn y trydydd safle ac mae UKIP, er yn bedwerydd, wedi colli cefnogaeth ers i’r pôl gan YouGov gael ei gynnal yn ystod mis Mawrth.

Mae’r canlyniadau ychydig yn fwy calonogol i’r Democratiaid Rhyddfrydol fodd bynnag, meddai’r Athro Roger Scully, cyfarwyddwr yr arolwg, lle mae eu cefnogaeth wedi codi 2%, er eu bod yn parhau yn y pumed safle.

Cefnogaeth Llafur ar ei “lefel isaf”

“Mae’n rhaid bod (Llafur) braidd yn bryderus bod ei chefnogaeth wedi gostwng ymhellach,” meddai Roger Scully.

33% yw’r gefnogaeth i’r blaid yn y seddi etholaeth, sef “lefel isaf Llafur mewn unrhyw bôl yng Nghymru ers cyn yr etholiad cyffredinol yn 2010.”

“Roedd arolwg YouGov tebyg a gafodd ei gynnal ar ddiwedd mis Ebrill 2011 yn rhoi 45% i Lafur yn y bleidlais etholaeth a 41% yn y bleidlais ranbarthol. Felly mae Llafur 12 pwynt yn is, nag oedden nhw ar yr un cyfnod cyn yr etholiad Cynulliad diwethaf,” ychwanegodd Roger Scully.

“Gall Llafur fod ar ei ffordd i gael ei chyfran waethaf erioed o bleidleisiau yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol.”

Gwrthbleidiau ‘rhanedig’

Yn ôl yr Athro Scully, y gwrthbleidiau ‘rhanedig’ yw un o’r rhesymau y tu ôl i’r ffaith fod Llafur yn parhau i fod ar y blaen.

Gyda Phlaid Cymru yn yr ail safle, mae hyn am fod yn “galonogol” i’r blaid, meddai, ond bod angen iddi gael ‘swing’ lleol cryf iawn mewn rhai etholaethau i ennill nifer sylweddol o seddi.

“Mae’r canfyddiadau yn llawer mwy pryderus i’r Ceidwadwyr; mae’r siarad optimistaidd yng nghynhadledd Gymreig y blaid ym mis Mawrth am ennill seddi yn ymddangos yn llawer llai tebygol,” meddai Roger Scully yn ei ddadansoddiad.

Roedd yr arolwg a gafodd ei gynnal ar y cyd rhwng YouGov a ITV Cymru wedi gofyn i 1001 o bleidleiswyr yng Nghymru rhwng 19 a 22 Ebrill i ba blaid oedden nhw’n bwriadu pleidleisio.

Dyma’r canlyniadau llawn, gyda’r newid mewn cromfachau ers yr arolwg diwethaf a gafodd ei gynnal mis yn ôl.

Pleidlais etholaeth

  • Llafur: 33% (-2%)
  • Plaid Cymru: 21% (dim newid)
  • Ceidwadwyr: 19% (dim newid)
  • UKIP: 15% (-2%)
  • Democratiaid Rhyddfrydol: 8% (+2%)
  • Eraill: 3% (dim newid)

Pleidlais ranbarthol

  • Llafur: 29% (-2%)
  • Plaid Cymru: 22% (+2%)
  • Ceidwadwyr: 19% (-1%)
  • UKIP: 15% (-1%)
  • Democratiaid Rhyddfrydol: 8% (+3%)
  • Gwyrddion: 4% (dim newid)
  • Eraill: 4% (+1%)

Ar y cyfan

  • Llafur: 28 sedd (26 sedd etholaeth + 2 sedd ranbarthol)
  • Plaid Cymru: 13 sedd (7 sedd etholaeth + 6 sedd ranbarthol)
  • Ceidwadwyr: 10 sedd (5 sedd etholaeth + 5 sedd ranbarthol)
  • UKIP: 7 sedd (7 sedd ranbarthol)
  • Democratiaid Rhyddfrydol: 2 sedd (2 sedd etholaeth)