Angharad Mair wedi'r ras Llun: Cyfrif Twitter Angharad Mair
Mae’r gyflwynwraig Angharad Mair, sydd i’w gweld ar soffa’r rhaglen Heno fel arfer, wedi llwyddo i dorri’r record Brydeinig am y ferch dros 55 oed gyflymaf erioed yn ras Marathon Llundain.

Rhedodd Angharad Mair, 56, y ras 26.2 milltir mewn 2 awr 57 munud a 46 eiliad – chwe munud yn gynt na’r record flaenorol. Dyma’r trydydd tro iddi gystadlu ym Marathon Llundain.

“Mi o ni’n teimlo’n reit dda tan i mi gyrraedd 20 milltir, wedyn mi aeth y coesau i rywle,” meddai wrth raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru bore ma.

“Ond mewn popeth, mae ‘na elfen bach o lwc. Y lwc i fi ddoe oedd  bod y record bresennol ddim mor galed â hynny i’w churo.

“Byddai’n lwcus iawn os byddai’n dal gafael ar y record yna am sbel ond am y tro, fi piau hi a dwi’n hapus iawn.”

Dywedodd ei bod yn cymryd tua 4 mis o hyfforddi a pharatoi ar gyfer y ras fawr oedd yn cael ei chynnal ar strydoedd Llundain ddydd Sul.

Torri record yn ras y dynion

A chafodd y record ar gyfer cwrs marathon Llundain ei thorri yn ystod ras y dynion, wrth i Eliud Kipchoge o Kenya ddod i’r brig.

Gorffennodd Kipchoge, 31, y ras mewn 02:03:04, yr ail amser gorau erioed mewn marathon.

Roedd buddugoliaeth i Kenya yn ras y merched hefyd, wrth i Jemima Sumgong lwyddo i orffen y ras yn fuddugol yn dilyn anaf i’w phen wedi iddi gwympo yn ystod y ras.

Gorffennodd hi’r ras mewn 02:22:58.

Mae Marathon Llundain yn un o’r rasys mwyaf yn y byd, ac roedd rhyw 38,000 yn ei rhedeg eleni.