Mae dyn 72 oed o Sir Gâr wedi marw ar ôl i’w sgwter symudedd daro wal ddydd Sadwrn.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i’r digwyddiad yn Llangynnwr am oddeutu 11.50yb.

Mae ymchwiliad ar y gweill.