Bu farw dyn nos Sadwrn yn dilyn gwrthdrawiad ger Castell-nedd.

Mae Heddlu’r De’n apelio am dystion i’r digwyddiad ar y B4242 ger Abergarwed am oddeutu 6.45yh.

Dim ond un car oedd yn y gwrthdrawiad, sef Citroen C2 coch.

Bu farw’r gyrrwr yn y fan a’r lle.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.