Mae ciw hir o draffig i gyfeiriad y dwyrain ar yr A55 y prynhawn yma, wrth i Heddlu Gogledd Cymru ddelio â “digwyddiad” ar y briffordd.

Mae popeth wedi’i ganoli rhwng cyffordd 11 (Bethesda a Llandygai) a chyffordd 12 (Tal-y0bont).

Mae’n syniad i yrwyr osgoi’r ardal os ydyn nhw’n teithio i gyfeiriad Conwy, Llandudno a Chaer.