Mae dyn wedi’i arestio yn dilyn digwyddiad yng Nghaerdydd neithiwr.

Fe gafodd swyddogion Heddlu De Cymru eu galw i ymateb i adroddiadau fod dyn â gwn wedi’i weld yn ardal Smart Way yn y brifddinas tua 5yp.

Fe fu cryn chwilio amdano yng nghanol y ddinas, ond fe gafodd ei arestio tua 7yh. Roedd ganddo ddryll o fath BB yn ei feddiant.  Chafodd neb ei anafu yn ystod y digwyddiad.

Mae’r dyn yn parhau yn y ddalfa, ac yn cynorthwyo’r heddlu gyda’u hymholiadau.