Mark Griffiths (Llun: Heddlu Gwent)
Mae milwr wedi’i garcharu am ddyrnu dynes a wrthododd roi ‘pump uchel’ iddo mewn tafarn yn ne-ddwyrain Cymru.

Roedd Mark Griffiths, 37, wedi gwylltio pan gododd ei law i bwmpio pump gyda Lauren Jones yn nhafarn y King’s Head, Cas-gwent, a bod hithau wedi gwrthod ymateb. Fe roddodd ddwrn iddi yn ei hwyneb, cyn ei tharo gyda photel.

Fe glywodd Llys y Goron Caerdydd fod Mark Griffiths mewn peryg o gael ei ddiarddel o’r fyddin o ganlyniad i’r weithred, a hynny ar ol gwasanaethu am wyth mlynedd, yn cynnwys dau gyfnod yn Afghanistan.

Mae Mark Griffiths, sy’n hanu o Warrington, Swydd Caer, wedi’i ddedfrydu i dair blynedd dan glo, wedi i’r rheithgor ei gael yn euog o geisio achosi niwed corfforol difrifol.