Hepatitis A (Llun: Iechyd Cyhoeddus Cymru)
Mae ymchwiliad ar y gweill yn dilyn nifer o achosion o Hepatitis A yn ardal Caerffili.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud bod pedwar achos o’r feirws wedi’i gadarnhau, a bob pob un yn gysylltiedig ag Ysgol Gynradd Glyn-Gaer yn Hengoed.

Mae brechiad yn cael ei gynnig i ddigyblion a staff a allai fod mewn peryg o ddal y feirws trwy gymdeithasu a chwarae.

Er bod sumtomau Hepatitis A yn rhai annifyr – blinder, poenau corfforol, cur pen a gwres, cyfog a chroen yn cosi, ymysg eraill – dyw e ddim yn gyflwr difrifol.

Y ffordd orau o rwystro’r feirws rhag lledu ydi trwy olchi’r dwylo ar ol bod yn y toiled, a chyn paratoi bwyd.