Darren Thomas - y Cofi Messi.
Mae Clwb Pêl-droed Caernarfon wedi cyfaddef mai eu methiant nhw i gadw cyfrifon digon manwl oedd y rheswm nad ydyn nhw’n cael chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru y tymor nesaf.

Ddoe fe gyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod y Cofis yn un o ddau glwb oedd wedi methu yn eu hapêl i sicrhau trwydded ddomestig.

Mae’n golygu, er bod y clwb ar frig cynghrair yr Huws Gray Alliance ar hyn o bryd, nad oes ganddyn nhw hawl i gael dyrchafiad ar ddiwedd y tymor.

Dywedodd y clwb eu bod yn “siomedig iawn” â’r penderfyniad, a bod cadeirydd y clwb wedi cytuno i gamu o’r neilltu ar unwaith.

‘Dim endid cyfreithiol’

Mewn datganiad fe ddywedodd y clwb fod endid ‘CPD Tref Caernarfon Town FC Cyf’ wedi cael ei ddiddymu ar 18 Awst 2015 am nad oedd cyfrifon wedi cael eu cofnodi bryd hynny, ac felly nad oedd modd dyfarnu trwydded iddi gan nad oedd hi’n bodoli’n gyfreithiol.

Mae’r clwb bellach wedi cyflwyno cais i gael eu hadfer, ond doedd hynny ddim wedi digwydd erbyn y broses apêl ar gyfer trwydded.

Yn ychwanegol, nododd y Bwrdd Apêl mai dim ond cyfrifon cryno oedd gan y clwb, ac nid cyfrifon archwiliedig blynyddol.

Mynd am y dwbl

Yn dilyn y dyfarniad fe gyhoeddodd cadeirydd presennol y clwb Arfon Jones ddatganiad yn dweud ei fod yn ymddiswyddo, gyda’r is-gadeirydd Dylan Hughes yn cymryd yr awenau dros dro nes y bydd Richard Morris Jones yn dechrau yn y swydd.

“Dw i’n gobeithio y byddwn ni’n gallu efelychu beth wnaeth Cei Cona rai blynyddoedd yn ôl pan wrthodwyd eu trwydded nhw, a tharo nôl y tymor canlynol er mwyn ailadrodd y gamp a chwblhau’r gwaith,” meddai Arfon Jones.

“Rŵan ydi’r adeg i bawb aros yn unedig a dw i’n gwybod ar ôl siom heddiw mai dyna fydd yn digwydd.

“Yn sgil cyhoeddiad heddiw ynglŷn â’r drwydded dw i’n gobeithio y bydd pawb yn tynnu at ei gilydd, gan fod ennill dwbl y gynghrair a’r Gwpan yn rhywbeth all hyd yn oed y siwts ddim ei gymryd oddi wrthym ni.”